Mae hen dwnnel cyfrinachol wedi cael ei agor i’r cyhoedd er mwyn nodi 30 blynedd ers cwymp Wal Berlin.

Mae’r twnnel oddi tan adfeilion y mur eiconig, a chafodd ei greu gan grŵp o bobol a oedd eisoes wedi ffoi o Orllewin Berlin.

Dechreuodd y gwaith o’i adeiladu yn 1970, naw blynedd wedi i Ddwyrain yr Almaen osod ffin galed â’i chymydog.

Roedd y twnnel yn 100 medr o hyd ac roedd hi mor gul bod yn rhaid cropian trwyddo. Cafodd ei ddymchwel yn rhannol yn y pen draw.

Bellach mae modd ei weld trwy ddwy ffenestr mewn ystafell sydd 24.6 troedfedd o dan y ddaear.