Mae dau gefnogwr clwb pêl-droed Celtic yn yr ysbyty wedi iddyn nhw gael eu trywanu yn Rhufain.

Digwyddodd hyn y tu allan i dafarn Flann O’Brien ym mhrifddinas yr Eidal neithiwr (nos Fercher, Tachwedd 6).

Mae Celtic yn chwarae yn erbyn Lazio mewn gêm yng nghynrhair Europa heno (Tachwedd 7).

Yn ôl heddlu’r Eidal cafodd y ddau ddyn eu cludo’n syth i’r ysbyty am driniaeth wedi’r digwyddiad.

Roedd Celtic wedi rhoi rhybudd diogelwch i’w cefnogwyr oherwydd tensiynau fu ar ôl y gêm rhwng y ddau dîm yn Glasgow y mis diwethaf.