Mae un o weinidogion Catalwnia sy’n wynebu cael ei hestraddodi i’r Alban am ei rhan yn y refferendwm annibyniaeth yn dweud nad yw hi bellach yn bwriadu mynd at yr heddlu o’i gwirfodd.

Mae gwarant wedi’i gyhoeddi i arestio Clara Ponsatí, athro economeg ym Mhrifysgol St Andrew’s yng Nghaeredin.

Mae hi wedi’i hamau o annog gwrthryfel, ac mae’n wynebu 15 o flynyddoedd dan glo.

Roedd disgwyl iddi fynd at yr heddlu yfory (dydd Iau, Tachwedd 7), ond mae ei chyfreithwyr yn dweud bod yna anghysonderau yn ei gwarant, sydd wedi cael ei dychwelyd i Sbaen am eglurhad.

Y disgwyl yn ôl ei gwarant yw y dylai hi fynd at yr heddlu ar Dachwedd 14.

Ymateb cyfreithwyr

“Dyma trydydd ymgais Sbaen i estraddodi Clara nawr, ac maen nhw wedi’u cyhuddo o gamddefnyddio’r broses warant Ewropeaidd i arestio,” meddai Aamer Anwar, ei chyfreithiwr.

“Rydym wedi cael gorchymyn i amddiffyn Clara yn gadarn yn erbyn yr hyn mae’n ei galw’n ‘weithred o ddial sydd wedi’i gyrru gan y farnwriaeth’ yn erbyn y gwleidyddion yng Nghatalwnia.”

Cefndir

Fe gafodd Clara Ponsatí ei harestio gyntaf fis Mawrth y llynedd, ac roedd disgwyl i wrandawiad yn Llys Siryff Caeredin ym mis Gorffennaf y llynedd. Ond cafodd cais ar gyfer yr achos ei ddileu gan farnwr yng Ngoruchaf Lys Sbaen, a daeth yr achos i ben.

Roedd disgwyl y byddai gwarant arall yn ei lle ar ôl i nifer o wleidyddion eraill gael eu carcharu yn Sbaen.

Gallai gwrandawiad arall bara rhwng deufis a thri mis.