Mae’r Democratiaid wedi cymryd rheolaeth lwyr yn senedd Virginia am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd, tra bod y ras i ddewis llywodraethwr yn Kentucky hefyd yn rhy agos i neb geisio dyfalu’r canlyniad,

Fe lwyddodd y Democrat, Andy Beshear, i ennill mwyafrif bychan, ac ef oedd yn fuddugol yn y ras yn erbyn y Gweriniaethwr, Matt Bevin, er nad yw Matt Bevin wedi ildio eto.

Yn Virginia, cymerodd y Democratiaid reolaeth o senedd y dalaith a Tŷ, gan gymryd rheolaeth lwyr o dalaith sy’n aml yn rhan ganolog o’r frwydr am yr arlywyddiaeth.

“Dw i yma heddiw i gyhoeddi fod Virginia yn swyddogol yn las,” meddai’r llywodraethwr Democrataidd Ralph Northam wrth dorf o gefnogwyr yn Richmond.