Mae heddlu Cyprus wedi arestio dau ddyn o Syria ar amheuaeth o smyglo ponol, wedi i long yn cario 131 o fgoaduriaid o Syria lsnio ar arfordir gogledd ddwyrain yr ynys.

Yn ôl yr heddlu, roedd y ddau ddyn, sydd bellach yn y ddalfa, ar fwrdd cwch arall a oedd yn dilyn cwch y ffoaduriaid.

Roedd awdurdodau Cyprus wedi bod yn tracio symudiadau’r cychod.

Fe gafodd y ddau ddyn, 43 a 53 oed, eu harestio gan swyddogion heddlu’r môryn ardal gwsrchodfa naturiol Akamas.

Mae’r ddau yn wynebu cyhuddiadau o gynorthwyo mynediad anghyfreithiol ffoaduriaid i Gyprus, ac o fasnachu pobol.

Mae pob un o’r 131 o ffoaduriaid, yn cynnwys pump o fenywod ac wyth o blant, wedi cael eu cymryd i ganolfan dderbyn ar gyrion y brifddinas, Nicosia.