Mae adroddiadau bod carcharorion gwleidyddol Catalwnia yn cael eu harteithio a’u hesgeuluso yn y ddalfa.

Caiff yr honiadau eu gwneud ar wefan vilaweb.cat, sy’n dweud bod y 28 carcharor yn cael eu curo gan yr heddlu ar ôl cael eu harestio yn ystod protestiadau o blaid annibyniaeth.

Mae cyfreithwyr yn dadlau bod y 28 wedi cael eu cadw yn y ddalfa am resymau gwan a heb fynediad i gyfreithiwr am hyd at 15 awr, sy’n fwy na’r uchafswm cyfreithiol, a’u bod nhw wedi cael eu camdrin.

Mae eraill wedi cael eu harestio heb dystiolaeth eu bod nhw wedi cyflawni unrhyw drosedd.

Mae rhai wedi treulio hyd at 48 awr dan glo heb fawr o fwyd, ac maen nhw’n cael eu curo a’u cyffwrdd yn amhriodol gan blismyn yn eu cerbydau ac yng ngorsafoedd yr heddlu.

Mae eraill wedi bod yn destun archwiliadau yn gwbl noeth, ac wedi’u rhoi mewn cyffion ar gyfer archwiliadau meddygol. Dydy hi ddim ychwaith yn gyfreithlon i blismyn fod yn bresennol ar gyfer archwiliadau.

Yn ôl rhai, mae’r heddlu’n curo’r carcharorion er mwyn dial am ymosodiadau ar eu cydweithwyr yn ystod y protestiadau. Yn yr achosion gwaethaf, mae rhai yn dweud bod gwaed ar waliau gorsafoedd yr heddlu.

Mae nifer o fenywod yn dweud iddyn nhw gael eu cyffwrdd gan blismyn, ond dydy hi ddim yn glir a oedd yna gymhelliant rhywiol i’r achosion hynny.

Ac mae nifer o fenywod wedi cael eu hanafu ar lawr cerbydau’r heddlu wrth gael eu cludo i’r ddalfa, gan gynnwys cael eu sathru gan blismyn.

Ymateb i’r honiadau

Ers i’r honiadau ddod i’r amlwg, mae nifer o fudiadau wedi bod yn monitro’r sefyllfa, gyda’r bwriad o gasglu tystiolaeth ynghylch ymddygiad yr heddlu.

Fe allai’r adroddiadau sy’n cael eu llunio gael eu trosglwyddo maes o law i gyrff dyngarol eraill, yn ogystal â Chyngor Ewrop a’r Cenhedloedd Unedig.