Mae prif weinidog Irac wedi galw ar i brotestwyr ail-agor ffyrdd, wedi mis o wrthdystiadau gwleidyddol.

Mae Adel Abdul-Mahdi yn galw ar i farchnadoedd, ffatrïoedd, ysgolion a phrifysgolion i ail-agor wedi protestiadau yn y brifddinas, Baghdad, a ledled de y wlad.

Mae’r bygythiad i faes olew y wlad, meddai, a chost ariannol y cau ffyrdd, ymhell yn y “biliynau” o ddoleri bellach.

Mae degau o filoedd o bobol wedi crynhoi ar y strydoedd yn ardal Sgwar Tahrir, Baghdad, yn galw am ddymchwel y gyfundrefn wleidyddol a gafodd ei sefydlu wedi marwolaeth Saddam Hussein.