Mae pedwar o bobol wedi’u hanafu’n ddifrifol, a 25 eraill wedi’u brifo, wedi i fws ar y ffordd rhwng Paris a Llundain droi drosodd yn Ffrainc.

Fe drodd y bws ar ei ochr yn ardal gogledd y Somme.

Roedd y FlixBus yn teithio ar ffordd wleb a llithrig ac yn cario teithwyr o Sbaen,  America, Awstralia, yr Iseldiroedd, Rwmania, Rwsia, gwledydd Prydain a Ffrainc.

Roedd 32 o bobol ar y bws.