Mae emojis sy’n cynnwys cymeriadau niwtral o ran rhyw a phobol ag anableddau ymhlith y rhai sydd wedi’u rhyddhau i ddefnyddwyr dyfeisiau Apple fel rhan o’i feddalwedd ddiweddaraf.

Bydd defnyddwyr nawr yn gallu dewis ethnigrwydd pob cymeriad yn yr emoji “dal dwylo”, tra bod diferyn o waed a ddyluniwyd i gynrychioli’r mislif hefyd wedi’i gyflwyno yn dilyn ymgyrch i ymladd stigma misglwyf.

Mae’r dyluniadau newydd yn rhan o fwy na 350 emoji a gymeradwywyd yn gynharach eleni sydd bellach wedi’u rhyddhau i ddefnyddwyr Apple fel rhan o’r diweddariad iOS 13.2.

Erbyn hyn mae llawer o’r emojis sy’n seiliedig ar gymeriad hefyd yn cynnwys opsiwn niwtral o ran rhyw ochr yn ochr â fersiwn gwrywaidd neu fenywaidd.

Mae eiconau sy’n dangos cymhorthion clyw, cadeiriau olwyn, aelodau prosthetig a chŵn tywys hefyd ymhlith y set ddiweddaraf o emojis gan Unicode Consortium, y corff sy’n cynnal ac yn rheoleiddio’r llyfrgell o gymeriadau.

“Rydyn ni wrth ein boddau o weld dyfodiad yr emoji diferyn gwaed hir-ddisgwyliedig hwn, sy’n arwydd o ddatblygiad gwirioneddol yn y frwydr yn erbyn stigma’r misglwyf,” meddai prif weithredwr Plan International UK Rose Caldwell mewn ymateb i gyflwyniad yr eiconau. 

“Dywedodd merched, menywod a mislifwyr eraill wrthym y byddai’r emoji hwn yn eu helpu i siarad yn fwy rhydd am eu misglwyf, a dyna pam y gwnaethom ymgyrchu mor galed i’w wireddu. 

“Ond dim ond un rhan o’r ateb yw hwn. Rydyn ni’n gwybod bod merched ledled y byd yn cael eu dal yn ôl oherwydd eu misglwyf, p’un ai’r un o bob pum merch yma yng ngwledydd Prydain sy’n cael eu bwlio a’u pryfocio…

“… merched yn Simbabwe sydd wedi gadael yr ysgol oherwydd i’r seiclon diweddar ddinistrio eu toiledau misglwyf-cyfeillgar…

“… neu’r rhai sy’n byw mewn gwersylloedd ffoaduriaid ym Mangladesh nad ydyn nhw’n gallu cael gafael ar gynhyrchion misglwyf ers ffoi o’u cartrefi.”