Bu cryn gynnwrf mewn cynhadledd i’r wasg yn Hong Kong heddiw (dydd Llun, Hydref 28) ar ôl i ohebydd gyhuddo’r heddlu o ymddwyn yn dreisgar tuag at newyddiadurwyr.

Torrodd y gohebydd ar draws y digwyddiad trwy adrodd datganiad a oedd yn cynnwys honiadau am gamymddwyn o du swyddogion yn ystod protestiadau diweddar y rhanbarth.

Cafodd y gohebydd llawrydd ei hatal a’i chludo o’r ystafell gan aelodau o’r staff, ond nid cyn i swyddogion yr heddlu adael y llwyfan a gwrthod ateb unrhyw gwestiynau pellach.

Mae tensiynau wedi cynyddu rhwng yr heddlu a’r protestwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Ar y nos Sul (Hydref 27), cafodd ffotograffydd ei gadw yn y ddalfa dros nos yn dilyn protest dreisgar arall.