Fe fu’r heddlu a phrotestwyr o blaid annibyniaeth Catalwnia yn gwrthdaro yn Barcelona.
Mae’r protestwyr yn dal i ddangos eu dicter ar ôl i arweinwyr gwleidyddol gael eu carcharu am eu rhan yn refferendwm annibyniaeth 2017 – gweithred sy’n cael ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan lywodraeth Sbaen.
Fe fu terfysgoedd bob nos am chwe noson o Hydref 14 yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys fod 12 o bobol yn euog o annog terfysg a throseddau eraill.
Yn ystod y gwrthdaro hwnnw, cafodd 500 o bobol eu hanafu a 200 eu harestio.
Y tro hwn, fe wnaeth y protestwyr ymgynnull ger pencadlys heddlu Barcelona a thaflu peli plastig at blismyn oedd yn ceisio cadw trefn arnyn nhw.
Aeth yr heddlu atyn nhw ar ôl iddyn nhw ddechrau taflu cerrig a photeli.
Daeth y protestiadau ar ôl i 350,000 o bobol fod yn gorymdeithio’n heddychlon drwy’r ddinas.
Mae disgwyl rali fawr yn y ddinas eto heddiw (dydd Sul, Hydref 27).
Y cefndir
Cafodd naw o arweinwyr Catalwnia eu carcharu am hyd at 13 mlynedd am eu rhan yn y refferendwm annibyniaeth.
Cafwyd pedwar ohonyn nhw’n euog o gamddefnyddio arian cyhoeddus, a thri o anufudd-dod.
Cafwyd pob un yn ddieuog o drosedd fwy difrifol, sef gwrthdystio, a allai fod wedi eu gweld nhw’n cael eu carcharu am hyd at 25 mlynedd.
Serch hynny, doedd pobol sy’n gwrthwynebu annibyniaeth ddim yn teimlo bod y dedfrydau’n ddigon llym.
Ar hyn o bryd, mae oddeutu hanner poblogaidd Catalwnia’n gwrthwynebu annibyniaeth, ond mae’r mwyafrif o blaid rhoi’r dewis i’w thrigolion mewn refferendwm.
Fe allai’r mater fod yn allweddol yn etholiadau cyffredinol Sbaen fis nesaf.