Mae bron bob un o 1,000 o feiri Catalwnia yn galw am yr hawl i gynnal refferendwm annibyniaeth.

Daw’r alwad wrth i filoedd o bobol orymdeithio ym Madrid heddiw yn galw am yr hawl i benderfynu eu dyfodol eu hunain.

Fe fu protestiadau mawr yn Barcelona a dinasoedd eraill ers rhai wythnosau, ar ôl i naw o arweinwyr Catalwnia gael eu carcharu am eu rhan yn y refferendwm yn 2017 nad yw’n cael ei ystyried yn un cyfansoddiadol gan Sbaen.

Mae’r meiri wedi cyflwyno dogfen i Quim Torra, arweinydd Catalwnia, yn galw am ryddid i’r carcharorion, sgwrs am annibyniaeth, a’r hawl i gynnal refferendwm.

“Mae eich presenoldeb yn arwydd o undod angenrheidiol, ac mae angen i ni ei gynnal yn wyneb gormes,” meddai’r arweinydd wrthyn nhw.

Gobaith trefnwyr yr orymdaith yw y bydd y nifer fwyaf o bobol erioed yn ymgynnull yng Nghatalwnia ar gyfer y protestiadau heddychlon.

Ond mae’r heddlu wedi bod yn ymateb yn llawdrwm, wrth i Sbaen barhau i wrthwynebu rhoi unrhyw fath o hawliau i Gatalwnia ynghylch annibyniaeth.

Mae disgwyl i wrthwynebwyr annibyniaeth Catalwnia ymgynnull yfory (dydd Sul, Hydref 27).