Mae goleudy 120 mlwydd oed yng ngogledd-orllewin Denmarc wedi cael ei osod ar olwynion er mwyn ceisio ei symud 250 troedfedd ymhellach o’r môr.

Pan gafodd goleudy 76 troedfedd Rubjerg Knude ei gynnau am y tro cyntaf yn 1900, roedd tua 650 troedfedd o ben draw’r tir yn Jutland. Erbyn hyn, mae rhyw 20 troedfedd o Fôr y Gogledd.

Mae disgwyl i’r symud gymryd deg awr, ar gyflymder o 26 troedfedd yr awr.

Fe ddaeth gwaith y goleudy i ben yn 1968, pryd y cafodd ei droi’n amgueddfa am gyfnod. Yn y diwedd, fe gafodd ei gau, ac fe adawyd y lle ar drugaredd yr elfennau. Mae tywod wedi gorchuddio dan o adeiladau sydd nesaf at y goleudy.

Er hynny, mae’n dal i ddenu 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.