Mae o leiaf 30 o bobol wedi marw, a 16 wedi cael eu hanafu, mewn damwain bws yn y Congo.

Dywed datganiad gan swyddfa’r arlywydd, Felix Tshisekedi, ei fod am gynnal ymchwiliad i’r digwyddiad, a’i fod eisoes wedi teithio i safle’r ddamwain yn ninas Mbanza-Ngungu i gydymdeimlo â’r sawl sydd wedi cael eu heffeithio.

Mae’n bosib fod brêc y bws wedi methu gan achosi’r bws i golli rheolaeth.

Mae’r rheiny sydd wedi eu hanafu wedi cael ei cludo i’r brifddinas, Kinshasa, am driniaeth.