Mae cyn-brif weinidog Pacistan, Nawaz Sharif, wedi cael ei ruthro i’r ysbyty, yn dilyn cyfres o brofion gwaed diweddar.

Roedd wedi’i garcharu ar ôl ei gael yn euog o ymddygiad llwgwr, ac fe gafodd ei gludo yn syth o’i gell i ysbyty yn hwyr neithiwr (nos Lun, Hydref 21).

Y gred gyntaf oedd ei fod wedi dal twymyn Dengue, sy’n rhemp ledled y wlad, ond yn ddiweddarach fe ddatgelwyd y gallai cownt isel y celloedd gwyn yn ei waed fod o ganlyniad i feddyginiaeth yr oedd yn ei chymryd.

Fe gafodd Nawaz Sahrif ei ddedfrydu i ddeuddeng mlynedd dan glo, a saith mlynedd arall ar gyhuddiad o guddio arian.

Mae hefyd yn destun ymchwiliad ar gyhuddiadau eraill o lygredd ariannol. Mae ef ei hun yn gwadu’r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.