Bydd pobl Canada yn bwrw eu pleidlais heddiw (Dydd Llun, Hydref 21), yn dilyn ymgyrch agos a allai olygu bod y Prif Weinidog Justin Trudeau yn colli grym ar ôl un tymor.

Yn ôl polau piniwn gallai Rhyddfrydwyr Justin Trudeau golli i’r Ceidwadwyr neu gael eu gorfodi i glymbleidio er mwyn aros mewn grym.

Ers 84 mlynedd, does yr un Prif Weinidog o Ganada gyda mwyafrif Seneddol wedi colli ymgyrch i gael ei ail-ethol.

Ond mae hen luniau ddaeth i’r fei fis diwethaf  lle’r oedd Justin Trudeau wedi lliwio ei wyneb yn dywyll wedi taflu cysgod dros yr ymgyrch.