Mae cyn-arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama wedi annog pobl Canada i ail-ethol y Prif Weinidog Justin Trudeau.

Dywedodd Barack Obama bod Justin Trudeau yn ymgeisydd gweithgar, effeithiol, sydd yn barod i daclo materion mawr megis newid hinsawdd.

“Mae’r byd angen arweinwyr blaengar nawr, ac rwyf yn gobeithio y bydd ein cymdogion yn y gogledd yn cefnogi Justin Trudeau am dymor arall.”

Mae Justin Trudeau yn wynebu brwydr i aros yn y swydd yn ystod yr etholiadau ddydd Llun (Hydref 21).