Mae trigolion Gwlad Pwyl yn bwrw eu pleidlais yn etholiad cyffredinol y wlad, a’r disgwyl yw y bydd y Blaid Cyfraith a Chyfiawnder yn parhau i lywodraethu.

Mae pryderon ynghylch democratiaeth yn y wlad yn gwneud yr etholiad hwn yn un o’r rhai pwysicaf ers 30 o flynyddoedd, gyda rhai yn gofidio y bydd camau di-droi’n-ôl tuag at ddiffyg rhyddfrydiaeth yn cael eu cymryd pe bai’r llywodraeth mewn grym am bedair blynedd arall.

Mae dros 30 miliwn o bobol yn pleidleisio i ethol cynrychiolwyr i haen isa’r senedd, y Sejm sydd â 460 o seddi, ac i’r haen uchaf sy’n cynnwys 100 o seddi.

Y llywodraeth hon yw’r gyntaf i droi eu cefn ar bolisïau llymder, ac mae pryderon y gallai’r system gyfiawnder a hawliau lleiafrifoedd ddioddef yn y cyfnod seneddol nesaf o dan y llywodraeth bresennol.

Mae disgwyl i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi ddechrau’r wythnos.