Mae dyn yn cario cyllell wedi ymosod ar un o weinidogion llywodraeth Indnesia. ac mae heddlu rhanbarth orllewinol y wlad yn credu y gallai’r ymosodwr fod yn gweithredu dan ddylanwad grwp Islamaidd eithafol.

Mae Wiranto, y gweinidog diogelwch sy’n cael ei nabod gan un enw yn unig, wedi cael ei glwyfo yn ei stumog yn ystod yr ymosodiad yn Banten.

Mae wedi’i gludo i’r ysbyty yn Jakarta mewn awyren lle y mae mewn cyflwr sefydlog.

Mae dyn, ynghyd â menyw oedd gydag ef, wedi cael eu harestio.