Mae dau o bobol wedi cael eu saethu’n farw yn ninas Halle yn nwyrain yr Almaen.

Fe gafodd nifer o fwledi eu tanio, cyn bod y rheiny sy’n cael eu hamau wedi dianc yn eu car.

Mae’r heddlu yn annog trigolion lleol i aros yn eu tai.

Mae papurau newydd Bild an Mitteldeutsche Zeitung yn adrodd i’r ymosodiad ddigwydd ger synagog.