Mae chwech o eliffantod wedi boddi mewn parc cenedlaethol yng Ngwlad Thai.

Llwyddodd swyddogion parc Khao Yai i achub dau arall ger rhaeadr ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 5).

Roedd dau o’r eliffantod yn ceisio cyrraedd un bach oedd wedi marw, meddai’r swyddogion.

Mae’r rhaeadr ynghau i ymwelwyr wrth i’r swyddogion symud cyrff yr eliffantod.

Mae’r parc yn gartref i hyd at 300 o eliffantod gwyllt, ac mae’n rhan o safle Treftadaeth y Byd Unesco.