Mae capten yr Eidal, Sergio Parisse, wedi cyfnewid negeseuon gyda’r gofodwr Luca Parmitano wedi i Rygbi’r Byd drefnu fod gêm yr Eidal yn erbyn De Affrica yn cael ei darlledu yn fyw yn yr Orsaf Ofod Ryngwladol.

Luca Parmitano sy’n rheoli’r Orsaf Ofod Ryngwladol yr wythnos hon, ac fel cefnogwr brwd i’r Azzurri mae’n edrych ymlaen at gael gweld y gêm yn fyw 150 milltir uwchben y ddaear.

Dyma’r tro cyntaf i gêm rygbi gael ei ddarlledu yn y gofod.

Negeseuon rhwng capteiniaid

Mewn neges at Sergio Parisse, dywed Luca Parmitano: “Mae rygbi yn gêm wych sydd yn dathlu cyfeillgarwch a gweithio fel tîm.

“Dw i eisiau dymuno pob lwc i chi yn y twrnament ac yn y gêm bwysig hon.”

Mae Sergio Parisse wedi ymateb drwy ddweud: “Mae’n deimlad anhygoel fod y gêm yn mynd i gyrraedd y stesion ofod rhyngwladol – does gan rygbi na Chwpan Rygbi’r Byd wir ddim ffiniau.”