Gall cysgu llai na chwe awr o gwsg bob nos gynyddu’r risg o gancr a marwolaeth gynnar i bobol sydd â phwysau gwaed uchel, clefyd siwgr teip 2 a chlefyd y galon, yn ôl canlyniadau ymchwil newydd.

Mae cysgu mewn patrymau arferol o wyth awr yn help i amddiffyn pobol ganol oed sy’n dioddef o’r cyflyrau yma.

Mae’r ymchwil yn awgrymu y dylai patrymau cysgu byr gael ei gynnwys fel ffactor risg i bobol sydd yn dioddef o’r cyflyrau.

Bu i wyddonwyr ddadansoddi 1,654 o bobol rhwng 20 a 74 oed ar gyfer yr ymchwil.