Mae miloedd o ffermwyr yn yr Iseldiroedd wedi mynd â’u protest i’r Hâg heddiw (dydd Mawrth, Hydref 1) , a nifer ohonyn nhw’n gyrru eu tractorau yn araf iawn yng nghanol

Maen nhw’n galw am fwy o barch i’w galwedigaeth.

Mae cymdeithas foduro’r ANWB yn dweud mai dyma’r bore prysuraf erioed ar ffyrdd y wlad, gyda mwy na 620 milltir o draffig yn rhoi’r bai ar y confoi o dractorau, tywydd gwael a damweiniau.

Mae trefnwyr y brotest yn dweud eu bod nhw eisiau cynnig delwedd wahanol i’r un negyddol arferol o ffermwr yn yr Iseldiroedd.

“Nid camdrinwyr anifeiliaid ydyn nhw, dydyn ni ddim yn llygru’r amgylchedd… mae gyda ni feddwl mawr o’n busnesau,” meddai llefarydd ar ran y ffermwyr. .

Maen nhw’n disgwyl i’r gweinidog amaeth, Carola Schouten, annerch y brotest yn ddiweddarach heddiw.