Mae dros 100 o bobol yn India wedi marw yn ystod y tridiau diwethaf mewn llifogydd yn dilyn glaw trwm, yn ôl swyddogion y wlad.

Dywed yr awdurdodau yn Utter Pradesh fod o leiaf 79 o bobol wedi marw yn y dalaith ers ddydd Gwener (Medi 27) wedi llifogydd sylweddol yn y dinasoedd.

Mae nifer y meirw yn nhalaith Bihar wedi cyrraedd 25.

Mae tymor monsŵn India yn cyfrif tuag at 75% o’r glaw sy’n disgyn drwy gydol y flwyddyn, ac yn dechrau fis Mehefin cyn cilio erbyn mis Medi.

Ond mae glaw trwm wedi parhau drwy gydol mis Medi eleni gan achosi llifogydd mewn ardaloedd sydd â thir isel.