Mae De Corea yn cydnabod fod achos arall o ffliw moch yn y wlad, a hynny ar fferm ger y ffin â Gogledd Corea.

Mae hyn wedi codi amheuon ynglyn â llwyddiant arbenigwyr wrth geisio cael yr haint dan reolaeth. Mae’r haint wedi lladd miloedd o foch ledled Asia drs y blynyddoedd diwethaf.

Oriau’n unig wedi cyhoeddi yr achos diweddara’ yn Paju, mae llywodraeth De Corea wedi gwahardd symud unrhyw foch oddi ar ffermydd y wlad am beth bynnag 48 awr.

Mae’r prif weinidog, Lee Nak-yeon, yn galw am ymateb sydyn a mesurau llym.

Fe gafodd rhagor na 15,000 o foch eu lladd yr wythnos ddiwetha’, pan gyhoeddwyd yr achos cyntaf o’r ffliw.

Mae’n bosib fod y ffliw wedi croesi’r ffin o Ogledd Corea, meddai’r awdurdodau. Mae’r wlad honno hefyd wedi cofnodi achosion ar ei ffin hithau â Tsieina ers mis Mai eleni.