Mae prif gwmni trydan Israel wedi dechrau diffodd cyflenwad Palesteina yn sgil ffrae ariannol ar hyd y Lan Orllewinol.

Yn ôl yr Israel Electric Company, mae gan gwmni Jerusalem District Electricity Company ddyledion gwerth £384m.

Mae disgwyl i’r cyflenwad gael ei dorri am ddwy awr bob dydd mewn sawl tref dros yr wythnosau i ddod.

Ond mae Israel yn cael eu cyhuddo o orddweud maint y ddyled ac o ecsbloetio’r sefyllfa at eu dibenion gwleidyddol eu hunain.

Mae Palesteina’n llwyr ddibynnol, bron, ar Israel ar gyfer eu cyflenwad trydan.