Mae Llywodraeth yr Almaen wedi cytuno i wario £48bn ar fesurau i ddatrys cynhesu byd eang.

Bu’r Canghellor mewn trafodaethau drwy’r nos gyda’r pleidiau sy’n llywodraethu’r wlad er mwyn cytuno ar becyn fydd yn cyfyngu ar y nwyon niweidiol sy’n cael eu cynhyrchu yn yr Almaen.

Bu’r gwleidyddion dan bwysau o du ymgyrchwyr amgylcheddol i weithredu ac mae’r gefnogaeth i’r Blaid Werdd wedi cynyddu yn sylweddol.

Mae’r Almaen yn anelu at gynhyrchu 55% yn llai o garbon deuocsid a nwyon niweidiol eraill erbyn 2030.

“Rydym yn credu y gallwn wireddu’r nod a’n bod wir wedi gosod y seiliau ar gyfer gwneud hynny,” meddai Angela Merkel.