Mae prisiau olew wedi cynyddu bron i 20% yn dilyn dau ymosodiad ar safleoedd prosesu yn Saudi Arabia ddydd Sadwrn gan effeithio cyflenwadau olew yn fyd-eang.

Roedd prisiau olew yn yr Unol Daleithiau hefyd wedi cynyddu ond mae’r Arlywydd Donald Trump wedi caniatau i olew wrth gefn y wlad gael ei ddefnyddio.

Mae pris olew Brent wedi cynyddu tua 10% i $66.64 y gasgen.

Mae’r Unol Daleithiau yn rhoi’r bai ar Iran am yr ymosodiadau ac mae’r Arlywydd Donald Trump wedi dweud ei fod yn barod i weithredu ond yn aros i glywed sut mae Saudi Arabia eisiau ymateb.

Mae wedi cynyddu pryderon am gyflenwadau ynni yn Saudi Arabia. Roedd yr ymosodiad ddydd Sadwrn (Medi 14) wedi effeithio un o safleoedd prosesu olew mwya’r byd yn ogystal a maes olew cyfagos. Gyda’i gilydd mae’n nhw’n cyfrannu bron i 50% o gynnyrch olew Saudi Arabia.

Fe allai gymryd wythnosau cyn eu bod yn weithredol unwaith eto.