Mae miloedd o brotestwyr yn Hong Kong wedi anwybyddu gorchymyn yr heddlu i beidio â gorymdeithio drwy’r ddinas, wrth i siopau gau eu drysau yn sgil pryderon am drais.

Roedd y protestwyr yn gwisgo mygydau wrth orymdeithio am fwy na milltir ar hyd y strydoedd i gadarnle busnesau’r ddinas.

Roedd rhai yn cario posteri yn galw am ddiwygiadau democrataidd.

Roedd yr heddlu wedi gwrthod rhoi’r hawl i fudiad y Ffrynt Hawliau Dynol Sifil i gynnal yr orymdaith oedd wedi tarfu ar drafnidiaeth yng nghanol y ddinas.

Fe wnaeth y protestwyr adeiladu blocâd ar hyd y strydoedd yn ystod yr orymdaith, gyda’r heddlu’n eu hannog i ddod â’r brotest i ben.

Diddymu bil dadleuol

Fis diwethaf, cytunodd llywodraeth Hong Kong i ddiddymu bil dadleuol a fyddai’n golygu bod rhai sy’n cael eu hamau o droseddau yn y wlad yn cael eu hanfon i Tsieina.

Mae’r protestwyr bellach yn galw am etholiadau i ddewis arweinwyr y ddinas ac i sicrhau atebolrwydd ymhlith yr heddlu.

Mae’r protestwyr yn cyhuddo’r heddlu o ymateb yn llawdrwm i’r protestiadau, gyda mwy na 1,300 o bobol wedi cael eu harestio ers iddyn nhw ddechrau.

Mae’r anghydfod eisoes yn cael effaith negyddol sylweddol ar economi Hong Kong.

Mae’r protestwyr yn galw ar Lywodraeth Prydain i ymyrryd yn y sefyllfa.