Mae’r awdurdodau yn Illinois wedi dod o hyd i weddillion miloedd o fabanod yng nghartref meddyg erthyliadau fu farw’r wythnos ddiwethaf.

Fe wnaeth cyfreithiwr teulu Dr Ulrich Klopfer gysylltu â swyddfa’r crwner yn sgil pryderon fod gweddillion yng nghartref y meddyg oedd yn gweithio yn Indiana.

Ond fe gollodd y clinig lle’r oedd e’n gweithio ei drwydded yn 2015, yn dilyn pryderon am ddiffyg dogfennaeth a gweithdrefnau, ac fe gollodd y meddyg ei drwydded bersonol y flwyddyn ganlynol er nad oedd e’n dal i weithio erbyn hynny.

Daeth yr awdurdodau o hyd i 2,246 o weddillion, ond does dim tystiolaeth fod erthyliadau wedi cael eu cwblhau yn ei gartref.

Mae’r gweddillion bellach yng ngofal swyddfa’r crwner, ac mae ymchwiliad ar y gweill.

Mae ymgyrchwyr a gwleidyddion yn dweud eu bod nhw wedi ffieiddio ynghylch y gweddillion.