Mae cyn-Ymerodres Japan, Michiko, wedi gadael yr ysbyty ar ôl cael llawdriniaeth canser y fron.

Fe gafodd Michiko ddiagnosis o ganser y fron ym mis Gorffennaf, ac mae asiantaeth yn y wlad yn cadarnhau iddi gael thriniaeth dydd Sul ac iddi fynd adref heddiw (dydd Mawrth, Medi 10).

Ymgrymodd yr ymerodres 84 oed i’r staff yn ysbyty Prifysgol Tokyo wrth iddi adael.

Dywed yr asiantaeth nad oedd ei chanser wedi lledu, ond bydd yn cael archwiliadau i benderfynu a oes angen triniaeth bellach.

Ymataliodd gŵr Michiko, Akihito, fel ymerawdwr ar Ebrill 30 a daeth eu mab, Naruhito, yn ymerawdwr drannoeth.

Michiko yw’r cominwr cyntaf i ddod yn ymerodres yn hanes modern Japan.