Mae un person wedi marw ac 19 arall wedi eu hanafu mewn tân mewn ysbyty yn ninas Duesseldorf yng ngorllewin yr Almaen, yn ôl swyddogion.

Dywedodd awdurdodau’r ddinas fod y tân wedi torri allan yn hwyr neithiwr yn ysbyty Marien Duesseldorf.

Bu farw dyn 77 oed yn y fan a’r lle.

Dywedodd llefarydd ar ran gwasanaeth tân Duesseldorf, Christopher Schuster, fod saith o bobl wedi dioddef anafiadau difrifol o ganlyniad i anadlu mwg, pedwar ohonyn nhw’n peryglu bywyd.

Mae achos y tân yn destun ymchwiliad.