Dywed meddygon yn Yemen eu bod nhw wedi tynnu o leiaf 130 o gyrff allan o rwbel ar ôl ymosodiad o’r awyr gan luoedd Sawdi Arabia ddydd Sul diwethaf.

Parhau mae’r chwilio am ragor o gyrff ar safle canolfan gadw a oedd dan reolaeth gwrthryfelwyr Houthi yn nhalaith Dhamar.

Roedd yr ymosodiad yn un o’r rhai mwyaf gwaedlyd yn y rhyfel yn y wlad dros y pedair blynedd ddiwethaf, sydd wedi arwain at ddegau o filoedd o farwolaethau.