Mae gwlad Groeg wrthi’n paratoi cais ffurfiol i’r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain i gael benthyg un o’i thrysorau hanesyddol ei hun.

Mae gweinidog diwylliant y wlad, Lina Mendoni yn cadarnhau ei bod yn y broses o hawlio’n ol, dros dro, y cerfluniau 200 oed a gafodd eu symud o deml hynafol y Parthenon ar fynydd Acropolis yn Athen.

Pe bai’n llwyddo i gael benthyg y darnau yn 2021, fe fyddai hynny’n cyd-daro â dau canmlwyddiant y chwyldro a arweiniodd at ffurfio gwladwriaeth fodern Groeg.

Mae wedi dweud wrth deledu Skai TV y gallai Groeg, yn gyfnewid am fenthyg y Marblis, roi  benthyg henebion i Lundain.

Mae Groeg o’r farn i’r cerfluniau sy’n dyddio’n ol i’r bumed ganrif cyn Crist, gael eu cymryd o’r Parthenon heb ganiatad, ac y dylen nhw gael eu dychwelyd yn barhaol. Mae’r Amgueddfa Brydeinig yn gwrthod hyn.