Mae o leiaf saith o bobol wedi marw ar ôl cael eu saethu gan yrrwr oedd wedi methu â stopio pan gafodd e orchymyn gan yr heddlu yn nhalaith Tecsas yn yr Unol Daleithiau.

Fe saethodd e at o leiaf 20 o bobol cyn cael ei saethu’n farw ger sinema.

Roedd yr heddlu wedi ceisio ei stopio ar ôl iddo fe fethu ag arwyddo ei fod am droi fan yr oedd wedi’i dwyn oddi ar yr heol.

Mae lle i gredu bod y dyn sydd wedi’i amau o’r troseddau yn ei 30au, ond dydy ei enw ddim wedi cael ei gyhoeddi.

Cafodd nifer o blismyn eu saethu yn ystod y digwyddiad.