Mae awyren fach oedd yn cludo wyth o bobol wedi taro’r ddaear a ffrwydro yn y Ffilipinas.
Fe ddaeth yr awyren i lawr ger pwll nofio ym mhentref Pansol ger mynydd Makiling yn nhalaith Laguna.
Mae o leiaf un corff wedi cael ei dynnu o weddillion yr awyren, yn ôl yr awdurdodau.
Cafodd dau o bobol eu hanafu cyn cael eu cludo i’r ysbyty.
Mae lle i gredu bod yr awyren wedi cael ei dargyfeirio yn sgil argyfwng meddygol, a’i fod wedi diflannu oddi ar y radar tros Laguna.
Roedd disgwyl iddi lanio yn y brifddinas Manila.