Mae rhai teithiau trên i faes awyr Hong Kong wedi cael eu gohirio am y tro yn sgil gwrthdaro treisgar rhwng yr heddlu a phrotestwyr ar draws y ddinas.

Ond dydy rhai teithiau trên ar ynys Chek Lap Kok i mewn i’r ddinas ddim wedi cael eu heffeithio, yn ôl yr awdurdodau.

Mae rhai cannoedd o brotestwyr wedi ymgynnull yn y maes awyr.

Asgwrn y gynnen yw cyfreithiau estraddodi arfaethedig, ond mae’r protestiadau bellach wedi cael eu hymestyn i alw am ragor o ddemocratiaeth ac ar i arweinydd y wlad gamu o’r neilltu.

Mae’r heddlu’n rhybuddio’r protestwyr eu bod yn gweithredu’n groes i ddyfarniad llys, ac y byddan nhw’n cael eu symud o’r neilltu.

Fe fu’r protestwyr yn taflu bomiau petrol at yr heddlu ddoe (dydd Sadwrn, Awst 31), ac fe fu’r heddlu’n defnyddio pastynau ac yn chwistrellu pupur i geisio’u tawelu.