Mae’r Bahamas a rhannau o’r Unol Daleithiau’n paratoi ar gyfer corwynt Dorian, a’r disgwyl yw y gallai’r gwyntoedd gyrraedd cyflymdra o hyd at 150 milltir yr awr.

Mae pobol eisoes yn cael lloches mewn ysgolion, eglwysi ac adeiladau eraill wrth iddyn nhw baratoi am y gwaethaf.

Y disgwyl yw y gallai daro arfordir de-ddwyrain yr Unol Daleithiau, ac y gallai’r gwyntoedd godi i gyflymdra o 150 milltir yr awr.

Mae gwestai a ffyrdd ynghau yn y Bahamas, a chartrefi wedi cael eu gwarchod wrth i gychod symud pobol i ardaloedd mwy diogel.

Mae prif weinidog yr ynys yn rhybuddio am “ganlyniadau catastroffig” y corwynt, gan gynnwys perygl i fywydau.

Ac mae Ron DeSantis, llywodraethwr Fflorida, hefyd yn rhybuddio nad yw’r dalaith honno’n ddiogel eto.