Mae babis sy’n cael eu geni drwy ddull Cesaraidd 33% yn fwy tebygol o fod ar y sbectrwm awtistiaeth, yn ôl astudiaeth wnaeth ystyried 20m o enedigaethau.

Mae’r darganfyddiadau, sy’n cyfuno 61 o astudiaethau o 19 o wledydd yn dyddio yn ôl i 1999, yn dweud ei fod 17% yn fwy tebygol iddyn nhw ddatblygu anhwylder diffyg sylw a gor-fywiogrwydd.

Nid yw’r astudiaeth yn profi os yw genedigaethau Cesaraidd wedi’i chynllunio neu ar frys yn achosi cyflyrau o’r fath.

Dywed awduron yr astudiaeth y gallai ffactorau sy’n arwain at lawdriniaeth, gan gynnwys mam hŷn neu’r risg o eni’n gynt, esbonio’r cysylltiad, o bosib.

Dywed gwyddonwyr nad oeddent yn ymwneud yn uniongyrchol â’r astudiaeth wrth The Daily Telegraph fod y canfyddiadau’n “sylweddol ddiffygiol”.