Mae pump o bobol wedi cael eu lladd a dros 150 ar goll yn dilyn storm mellt a tharanau ym mynyddoedd Tatra yng ngwlad Pwyl.

Mae’r gwasanaethau achub yn parhau i chwilio am bump o bobol sydd heb ddychwelyd i’w llety yn dilyn y storm ddoe (dydd Iau, Awst 22) hefyd.

Cafodd dau blentyn a dau oedolyn eu lladd yn Slofacia, y wlad sydd drws nesaf i wlad Pwyl, yn y storm.

Mae dros 150 o bobol wedi cael triniaeth oherwydd llosgiadau, toriadau esgyrn a phroblemau i’w calon mewn ysbyty yn Zakopane, ac mae 22 yn dal yno.

Roedd pum hofrennydd wedi mynd allan i chwilio am oroeswyr, ble’r aeth tîm yr arweinydd, Jan Krzysztof, “tu hwnt i’r sefyllfaoedd” yr oedd ei dîm erioed wedi’u hwynebu.