Mae ffrwydrad wedi ysgwyd storfa arfau i’r gogledd o Baghdad, prifddinas Irac.

Fe ddaw yn rhan o gyfres o ymosodiadau ar ganolfannau milwrol sy’n berchen i wrthryfelwyr sydd â chefnogaeth Iran ledled y wlad.

Mae warysau ac adeiladau wedi cael eu chwythu i fyny, a phob un yn eiddo i’r grwp ymbarel sy’n galw’i hun yn PMF.

Mae rhai ymosodiadau wedi digwydd trwy ddefnyddio dronau, a’r lleill trwy ymosod yn uniongyrchol ar gynnwys y storfeydd. Does yna neb eto wedi hawlio cyfrifoldeb am y ffrwydriadau.

Mewn ymateb, mae prif weinidog Irac, Adel Abdul-Mahdi, wedi gwahardd awyrennau heb awdurdod rhag hedfan dros rai rannau o’r wlad.