Mae arlywydd yr Unol Daleithiau wedi canslo ei gyfarfod gyda Phrif Weinidog Denmarc ar ôl iddi ddweud nad yw’r Ynys Las ar werth.

Yn ddiweddar, mae Donald Trump wedi bod yn trafod y syniad o brynu’r ynys, sy’n eiddo i Ddenmarc.

Er bod yr Arlywydd yn mynnu nad yw’r syniad yn flaenoriaeth ganddo, mae Prif Weinidog Denmarc, Mette Frederiksen, wedi ei disgrifio’n “drafodaeth ddwl”.

Mewn neges ar Twitter, dywed Donald Trump: “yn seiliedig ar sylwadau Prif Weinidog Mette Frederiksen ynglŷn â’r ffaith nad oes ganddi ddiddordeb mewn trafod gwerthu’r Ynys Las, fe fydda i’n gohirio ein cyfarfod ymhen y pythefnos.

“Mae’r Prif Weinidog wedi arbed costau ac ymdrech mawr i’r Unol Daleithiau a Denmarc ar ôl bod mor uniongyrchol,” meddai wedyn.

“Dw i’n diolch iddi am hynny ac yn edrych ymlaen at aildrefnu rywbryd yn y dyfodol.”

Fe gyhoeddodd y Tŷ Gwyn ym mis Gorffennaf bod Donald Trump wedi derbyn gwahoddiad i ymweld â Denmarc er mwyn cyfarfod â’r Frenhines, yn ogystal â chynnal cyfres o gyfarfodydd gyda’r Prif Weinidog ac arweinwyr busnes.

Mae llefarydd ar ran palas brenhinol y wlad yn dweud bod y datblygiad diweddar yn “syndod” iddyn nhw.