Mae dyn wedi cael ei ladd gan yr heddlu yn ninas Rio de Janeiro, Brasil, ar ôl dal dwsinau o bobol yn wystlon ar fws.

Roedd y dyn yn bygwth rhoi’r bws ar dân gyda phetrol cyn i’r heddlu ei saethu’n farw ar ôl pedair awr. Cafodd y digwyddiad i gyd ei ddarlledu yn fyw ar y teledu.

Cafodd yr holl wystlon eu rhyddhau heb anaf ar ôl y digwyddiad wnaeth gymryd lle ar bont wyth milltir sy’n cysylltu Rio de Janeiro ag ardal Niteroi ar draws Bae Guanabara.

Roedd y bws yn teithio o Sao Goncalo, cymuned ar draws y bae sy’n brwydro tlodi a thrais

Mae llawer o bobl yn defnyddio’r bont i deithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith yn Rio, a chafodd cannoedd o geir eu dal wrth i’r heddlu gau lonydd a cheisio cael rheolaeth ar y sefyllfa.

Aeth y dyn, oedd yn dal gwn a chyllell, â 37 o bobl yn wystlon ar y bws tua am tua 5.30am

Rhyddhaodd chwe gwystl i ddechrau a phan gamodd allan o’r bws, fe daflodd gwrthrych oedd yn debyg i fag cyn cael ei saethu gan wn sneipr.