Mae Prif Weinidog yr Eidal, Guiseppe Conte, am ymddiswyddo yn dilyn ffrae gyda’r gweinidog gartref Matteo Salvini.

Dywed Guiseppe Conte wrth seneddwyr llywodraeth yr Eidal ei fod yn gwneud hyn oherwydd bod Matteo Salvini, ei bartner y glymblaid asgell-dde, wedi tynnu ei gefnogaeth iddo yn ôl.

Fe fydd y Prif Weinidog yn mynd at yr Arlywydd Sergio Matarella yn hwyrach heddiw (dydd Mawrth, Awst 20) i gadarnhau’r penderfyniad.

Fe fydd gan Sergio Matarella, fel pennaeth y wladwriaeth, yr opsiwn i ofyn i Guiseppe Conte i geisio darganfod mwyafrif amgen yn y Senedd, neu dderbyn ei ymddiswyddiad a gweld os gall arweinydd arall greu clymblaid arall.

Os nad yw hyn yn digwydd, fe all yr Arlywydd ddiddymu’r Senedd, gan osod llwyfan ar gyfer etholiad cyffredinol mor gynnar â mis Hydref.

“Anghyfrifol”

Dywedodd Guiseppe Conte fod Matteo Salvini wedi bod yn “anghyfrifol” wrth greu argyfwng gwleidyddol newydd i’r Eidal ar gyfer “buddiannau personol a phleidiol.”

Roedd Matteo Salvini, arweinydd plaid y Gynghrair Genedlaetholgar, wedi cyflwyno cynnig dim hyder yn erbyn y Prif Weinidog.

Dywedodd hefyd na allai weithio gyda’i bartneriaid o glymblaid Five Star mwyach. Ffurfiodd y Gynghrair a’r Mudiad Five Star glymblaid i lywodraethu 14 mis yn ôl gyda Guiseppe Conte yn annibynnol fel prif weinidog.

Daw’r newyddion hefyd yn dilyn dadlau mawr dros groesau llong o ffoaduriaid i’r Eidal. Mae’r llong wedi’i hangori ger ynys Lampedusa ers 19 diwrnod.