Mae tua 100 o bobol wedi bod yn protestio ym mhrifddinas Nepal i wrthwynebu cynlluniau i dorri miliynau o goed er mwyn adeiladu maes awyr rhyngwladol yn ne’r wlad.

Bu’r protestwyr yn picedu tu allan i swyddfeydd yr Awdurdod Hedfan Sifil [CAA] a’r Adran Goedwigaeth yn Kathmandu, yn galw am atal y cynlluniau ar unwaith ar gyfer maes awyr yn Nijgadh, tua 50 milltir o’r brifddinas.

Maen na amcangyfrif y bydd yn rhaid torri 2.4 miliwn o goed er mwyn adeiladu’r maes awyr. Fe fyddai 500 o deuluoedd hefyd yn gorfod symud o’u pentrefi er mwyn gwneud lle i’r maes awyr.

Yn ol y protestwyr fe fyddai’r maes awyr yn gyflafan amgylcheddol oherwydd byddai’n rhaid dinistrio coedwigoedd sy’n gynefin i anifeiliaid gwyllt yn yr ardal.

Maen nhw’n cydnabod bod angen maes awyr rhyngwladol ond maen nhw’n dweud bod angen dod o hyd i leoliad newydd ar ei gyfer lle does dim coedwigoedd ac anifeiliaid gwyllt yn byw.

Dim ond un maes awyr sydd yn Nepal ac mae wedi’i leoli yn Kathmandu. Yn ystod tywydd gwael mae hediadau rhyngwladol i Nepal weithiau’n cael eu dargyfeirio i wledydd eraill.