Mae oddeutu 2,000 o bobol wedi cael eu symud o’u cartrefi yn dilyn y tân afreolus diweddaraf yn Gran Canaria lai na 24 awr yn ôl.

Mae mwy na 1,235 erw o dir wedi cael eu dinistrio yn ystod y cyfnod hwnnw.

Fe fu o leiaf 250 o ddiffoddwyr yn ceisio cadw trefn ar y fflamau, ac fe fu naw hofrennydd a dwy awyren ar y safle ger tref Valleseco.

Mae lle i gredu y gallai ledu ymhellach oni bai bod diffoddwyr yn llwyddo i reoli’r tân, ac mae gorchmynion yn eu lle i symud trigolion chwech o drefi fel rhagofal.

Dyma’r ail dân afreolus ar yr ynys mewn llai nag wythnos.