Mae Myanmar a Bangladesh wrthi am yr ail waith yn ceisio dychwelyd Mwslemiaid Rohingya adref, wedi i dros 700,000 ohonyn nhw ffoi rhag milwyr ddwy flynedd yn ôl.

Dywed Caroline Glick, llefarydd i Gomisiwn y Cenhedloedd Unedig i Ffoaduriaid, fod llywodraeth Bangladesh wedi gofyn am ei help i wirio’r 3,450 o bobol sydd wedi’u cofrestru fel ffoaduriaid, i ddychwelyd.

Ym mis Awst 2017, fe ymosododd byddin Myanmar ar ‘wrthryfelwyr’ Rohingya mewn ymateb i ymosodiad ganddyn nhw.

Arweiniodd hyn at ecsodus mawr o Fwslemiaid Rohingya dros y ffin i Bangladesh, a chyhuddiadau bod lluoedd diogelwch wedi treisio, lladd a llosgi miloedd o gartrefi.

Fe awgrymodd y Cenhedloedd Unedig y dylid erlyn prif reolwyr milwrol Myanmar am hil-laddiad, troseddau rhyfel a throseddau yn erbyn dynoliaeth.

Mae Myanmar wedi gwrthod yr honiadau a, hyd yn hyn, mae’r mwyafrif o ffoaduriaid yn meddwl ei bod hi’n rhy beryglus i ddychwelyd adref.