Mae lluoedd De Corea yn dweud bod Gogledd Corea wedi tanio rhagor o daflegrau i’r mor.

Daw hyn yn dilyn cyfres o brofion arfau a chredir mai’r bwriad yw rhoi pwysau ar Washington a Seoul i gyflymu’r trafodaethau am arfau niwclear.

Yn ol De Corea roedd tafelgau wedi cael eu tanio o ardal ar arfordir ddwyreiniol Gogledd Corea ond nid ydyn nhe wedi dweud beth oedd yr arfau neu faint gafodd eu tanio.

Dyma’r chweched tro i Ogledd Corea gynnal profion arfau ers diwedd mis Gorffenaf. Mae wedi mynegi ei rhwystredigaeth ynglyn a’r oedi yn y trafodaethau niwclear gyda’r Unol Daleithiau a’r ffaith bod De Corea a’r Unol Daleithiau yn parhau i gynnal ymarferion milwrol ar y cyd.

Dywedodd De Corea bod yr ymgynghorydd diogelwch cenedlaethol Chung Eui-yong yn cadeirio cyfarfod brys o’r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol ynglyn a’r profion diweddara a bod yr Arlyywdd Moon Jae-in wedi cael ei hysbysu am y datblygiadau diweddaraf.

Mae’r Ty Gwyn wedi dweud ei fod yn ymwybodol o’r adroddiadau ac yn ymgynghori gyda Seoul a Tokyo.

Mae Gogledd Corea wedi anwybyddu galwadau De Corea i gynnal trafodaethau.