Mae gwyddonwyr wedi dod o hyd i organ newydd yn y croen sy’n synhwyro poen.

Yn ôl ymchwilwyr o Karolinska Institutet yn Sweden, mae’r organ yn un sensitif ac mae ei rhwydwaith o gelloedd yn medru synhwyro pigiadau ac ergydau poenus.

‘Celloedd glia’ yw’r rhain ac mae gan bob un ohonyn nhw freichiau bychain.

“Newid ein dealltwriaeth”

“Dyw ein sensitifrwydd i boen ddim yn deillio’n llwyr o edafedd nerfau’r croen,” meddai’r Athro Patrick Ernfors. “Mae hefyd yn deillio o’r organ sensitif yma.

“Mae’r darganfyddiad yma yn newid ein dealltwriaeth o fecanweithiau’r synhwyrau. Ac efallai y bydd yn ein helpu i ddeall poen cronig.”